Enw’r tyst/sefydliad

Cais y Pwyllgor

Ymateb y tyst/sefydliad

Karen Samuels,
Grŵp Strategaeth Feddyginiaethau Cymru Gyfan

Nododd Ms Samuels fod yr Uned Cymorth Presgripsiynu Dadansoddol Cymru wedi bod yn monitro'r defnydd a wneir o feddyginiaethau a arfarnwyd gan AWMSG a NICE, a chytunodd i rannu'r papur yn amlinellu canlyniadau'r monitro hwnnw gyda'r Pwyllgor.

Gellir gweld copi o’r papur yma.

(MT – AI1 ar y wefan).

Dr Phil Webb,
Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru

Cytunodd Dr Webb i ddarparu nodyn i'r Pwyllgor yn amlinellu un argymhelliad allweddol y byddai Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn ei wneud i'r Pwyllgor mewn perthynas â gwella'r mynediad at dechnolegau meddygol yng Nghymru a sut y gellid cyflawni hyn.

Gellir gweld copi o’r nodyn yma.

(MT – AI2 ar y wefan).

Emma Greenwood,
Ymchwil Canser y DU

Rhoddodd Emma Greenwood wybod i'r Pwyllgor am y cydweithrediad diweddar rhwng Cancer Research UK a GIG Lloegr a oedd yn gofyn i grwpiau perthnasol o fewn y diwydiant sut roeddent yn rhagweld maes radiograffeg mewn deng mlynedd. Cytunodd Ms Greenwood i rannu gwybodaeth am y gwaith hwn gyda'r Pwyllgor.

Gellir gweld copi o’r gwaith yma.

(MT – AI3 ar y wefan).


 

Buddug Cope,
Cynghrair Geneteg y DU

Cytunodd Buddug Cope i roi gwybodaeth i'r Pwyllgor am y cyswllt rhwng rhaglen technoleg iechyd NICE a Rhwydwaith Profi Geneteg y DU (UKGTN).

 

Cytunodd Ms Cope hefyd i roi eglurhad pellach i'r Pwyllgor am y gydberthynas rhwng cymeradwyo profion newydd gan UKGTN a'u comisiynu wedyn gan GIG yr Alban.

Gellir gweld copi o’r ymateb yma.

(MT – AI4 ar y wefan).

Lars Sundstrom,

Rhwydwaith Gwyddoniaeth Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr

Cytunodd Lars Sundstrom, Rhwydwaith Gwyddorau Iechyd Academaidd Gorllewin Lloegr, i ddarparu nodyn ar y system newydd sydd wedi'i chyflwyno yn Lloegr (sydd ar gael i sefydliadau yng Nghymru), sy'n caniatáu mynediad at gyllid ac yn rhoi ffordd o gomisiynu gwaith ymchwil a datblygu drwy'r system gofal iechyd.

Gellir gweld arolwg o’r system yma.

(MT – AI5 ar y wefan).

Dr Nazia Hussain,
Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol Cymru

Dywedodd y Dr Nazia Hussain y byddai'n darparu:

-     nodyn am y modd y mae Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol yn ystyried llais cleifion wrth ddatblygu ei ddulliau gweithredu yn achos technolegau ac arloesedd, a'r modd y mae'r Coleg yn credu y dylai llais cleifion gael ei ystyried yn y broses arfarnu a chomisiynu;

-     nodyn yn egluro a yw'r defnydd o dechnolegau meddygol yn rhan o'r broses ailddilysu ar gyfer meddygon teulu, neu a fydd yn rhan o'r broses.

Gellir gweld copi o’r nodyn yma.

(MT – AI6 ar y wefan).